1. Yr amserlen weithredu arfaethedig; a fydd gan athrawon ledled Cymru yr amser a’r adnoddau angenrheidiol i allu cyd-fynd go iawn â disgrifiadau’r Safonau newydd erbyn Medi 2018?

Dylai ysgolion ddechrau gweithio ar y safonau hyn cyn gynted â phosibl, gan fod uchelgais y safonau, sef cefnogi twf pob gweithiwr addysg proffesiynol, yn gywir ac er lles pennaf dysgwyr.

Nid yw hi’r tu hwnt i allu ysgolion a’r system addysg i ddechrau gweithredu’r safonau o Fedi 2018 ymlaen, ond bydd angen cymorth sylweddol ar ysgolion yn y tymor byr, canol a hir er mwyn defnyddio’r safonau’n llwyddiannus, gan ei bod hi’n gyfnod o newid sylweddol mewn addysg yng Nghymru.  Fodd bynnag, mae ansawdd y cymorth gan gonsortia rhanbarthol, er enghraifft yn ymwneud â datblygu arweinyddiaeth, wedi amrywio yn y gorffennol.

Yn benodol, bydd yn her sylweddol i sicrhau bod pob ysgol yn defnyddio’r safonau cystal â’i gilydd.  Nid oes gennym hanes cadarn o sicrhau bod pob ysgol yn defnyddio safonau arweinyddiaeth blaenorol yn llwyddiannus ac yn gyson.  Yn ein cyhoeddiad ‘Defnydd statudol o safonau arweinyddiaeth wrth reoli perfformiad penaethiaid’ (Estyn, Tachwedd 2015), dywedom mai ‘ychydig iawn o’r paneli arfarnu sy’n defnyddio’r safonau arweinyddiaeth yn effeithiol i arfarnu perfformiad y pennaeth.’

Mae geiriad llawer o ddangosyddion y safonau yn cyflwyno her i weithwyr proffesiynol o ran eu dehongli’n gyson.  Mae’n bosibl na fydd perfformiad yr ystyrir ei fod yn cyfateb i ddisgrifiad mewn un lleoliad yn cyfateb mewn lleoliad arall.  Mae perygl y gallai ysgolion ddatblygu eu rhestri gwirio eu hunain o ystyr y safonau oherwydd y diffyg eglurder hwn.  Yn ogystal, er y bydd y safonau hyn yn cael eu cyflwyno yn 2018, mae angen i ni gydnabod na fydd y cwricwlwm newydd y cyfeiriant ato yn statudol tan 2021/2022.  Mae’n allweddol bod y safonau’n cael eu hystyried yn safonau sy’n ategu diwygio ac na fyddant yn dasg ychwanegol sy’n rhwystro ysgolion rhag ymhél â diwygio’r cwricwlwm.

Yn gryno, bydd effeithiolrwydd a chysondeb ysgolion wrth ddefnyddio’r safonau newydd yn dibynnu ar ansawdd y cymorth a’r arweiniad gan Lywodraeth Cymru a’r consortia rhanbarthol, yn enwedig i benaethiaid.  

Mae gan ysgolion y gallu i ddechrau ystyried y pum safon gyffredinol fel sylfaen ar gyfer arfarnu a gwella perfformiad proffesiynol, ond mae’n anodd gwarantu y bydd pob ysgol mewn sefyllfa i gyd-fynd go iawn â’r disgrifiadau erbyn Medi 2018.  Mae’n debygol o gymryd cryn amser i fesurau sydd yr un mor effeithiol fod ar waith ar draws Cymru i sicrhau bod ysgolion yn cydymffurfio â’r safonau newydd ac arfarnu p’un a yw ysgolion yn defnyddio’r safonau yn dda.  

2. A oes digon o gymorth a hyfforddiant ar gael, neu’n debygol o fod ar gael, er mwyn helpu athrawon i bontio i’r safonau newydd?

Mae’n anodd i Estyn ateb y cwestiwn hwn gan nad ydym yn gwybod am unrhyw gynlluniau hyfforddi neu ddatblygu arfaethedig.  Fodd bynnag, fel y dywedwyd yn gynt, nid yw ysgolion bob amser wedi ymhél yn effeithiol â safonau proffesiynol blaenorol ac mae gallu consortia rhanbarthol i hyfforddi a chefnogi athrawon ac arweinwyr ysgol yn amrywio, ac efallai nad yw’n gyson ar hyd a lled Cymru.

3. A ydych chi’n rhagweld unrhyw bwysau adnoddau ychwanegol ar eich gwaith o ganlyniad i’r safonau newydd?

Nid ydym yn rhagweld unrhyw bwysau arwyddocaol ar Estyn o ran adnoddau ychwanegol o ganlyniad i’r safonau newydd.  

Bydd rhywfaint o ofynion hyfforddiant i holl Arolygwyr Ei Mawrhydi.  Er enghraifft, bydd angen i bob arolygydd fod yn gyfarwydd â’r safonau newydd a’u goblygiadau i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym myd addysg.  

Byddwn yn neilltuo adnoddau ac arbenigedd proffesiynol i arfarnu’r gwaith o gyflwyno’r safonau proffesiynol newydd a’u heffeithiolrwydd.  Byddwn yn parhau i arolygu effaith datblygiad proffesiynol athrawon ac arweinwyr mewn arolygiadau ysgol.  Bydd hyn yn cynnwys ystyried y defnydd o unrhyw safonau proffesiynol newydd.  Bydd arolygwyr yn ystyried pa mor dda mae ysgolion yn defnyddio safonau proffesiynol i gefnogi twf proffesiynol, er enghraifft o dan faes arolygu 5, arweinyddiaeth a rheolaeth.